Skip to content

Colour scheme Black theme White theme Accessibility Translate English Decrease font sizeA Reset font sizeA Increase font sizeA

Am y gronfa

Sefydlwyd y Gronfa Ceisio am Swydd Etholiadol yn 2012 ac mae’n gweithredu tan fis Mawrth 2014.

Mae’r gronfa yn cynnig grantiau unigol o rhwng £250 a £10,000 i bobl anabl sydd am gael eu hystyried i gael eu dewis fel ymgeiswyr ar gyfer etholiad, neu sy’n sefyll etholiad.

Mae’r grantiau yn helpu i dalu am yr anghenion cefnogol ychwanegol sydd eu hangen ar unigolion anabl sy’n gysylltiedig â’u hanabledd. Pe na byddai’r gefnogaeth hon yn cael ei darparu, gallai unigolyn anabl wynebu rhwystr ychwanegol yn y prosesau dewis ac ymgyrchu o gymharu ag unigolyn heb anabledd.

Ydw i’n gymwys?

Mae Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2010 (DGA) yn diffinio person anabl fel unigolyn ‘gyda nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith negyddol sylweddol a hirdymor ar allu’r person i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd’. Mae’n rhaid i chi fod yn anabl yn unol â’r diffiniad hwn er mwyn gwneud cais i’r gronfa.

Cewch ymgeisio am yr arian o’r gronfa os byddwch yn:

  • gallu cadarnhau eich bod yn gymwys i sefyll etholiad yn unol â gofynion y ddeddf etholiadol, a nodir yng nghanllawiau’r Comisiwn Etholiadol ,
  • gallu darparu tystiolaeth mewn perthynas â’ch anabledd, ac
  • yn gallu rhoi tystiolaeth eich bod wedi bod yn gysylltiedig â neu â diddordeb mewn gweithgareddau dinesig, cymunedol neu berthnasol eraill.

Mae’r gronfa ar gyfer costau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anabledd y mae’n rhaid i chi eu talu fel rhan o’r broses o sefyll etholiad. Ni ellir ei defnyddio ar gyfer talu costau cyffredinol y mae unrhyw ymgeisydd etholiad yn eu hwynebu e.e. costau ymgyrchu (fel taflenni). Nid yw ychwaith ar gyfer costau byw cyffredinol.

Pa etholiadau sydd yn dod o dan y gronfa?

Mae’r gronfa yn berthnasol i’r etholiadau canlynol:

  • Senedd y DU
  • Lleol yn Lloegr (ond ddim plwyf)
  • Maer yn Lloegr
  • Etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddyng Nghymru a Lloegr
  • Awdurdod Llundain Fwyaf (GLA)
  • Is-etholiadau ar gyfer unrhyw un o’r etholiadau uchod.

Os nad ydych yn sefyll (neu’n bwriadu sefyll) ar gyfer yr etholiadau a restrir uchod, nid ydych yn gymwys i wneud cais am y gronfa.

Am ragor o fanylion am yr etholiadau hyn a’r broses etholiadol, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol.

Am faint o arian alla i wneud cais amdano?

Y lleiafswm y gellir gwneud cais amdano yw £250 a’r uchafswm yw £10,000 mewn unrhyw flwyddyn galendr (1 Ionawr hyd 31 Rhagfyr). Cewch gyflwyno mwy nag un cais i’r gronfa ond yn gyfan gwbl, gyda’i gilydd, ni allant fod yn fwy na £10,000 y flwyddyn.

Pryd fydda i’n derbyn fy ngrant?

Mae’r broses dalu yn annibynnol ar y broses gwneud cais a bydd yn digwydd ar ôl y dyddiad y byddwch yn derbyn eich llythyr grant. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe fyddwn yn prosesu eich taliad ar ôl i chi anfon atom anfonebau a derbyniadau am eitemau a nodwyd gennych yn eich cais.

Pa dystiolaeth mae angen i mi ei darparu?

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe fyddwn yn gofyn i chi ddarparu prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad, a thystiolaeth yn ymwneud â’ch anabledd. Peidiwch ag anfon tystiolaeth wrth gyflwyno eich cais. Am restr lawn o’r dystiolaeth sy’n dderbyniol gennym, darllenwch y canllawiau.

Mae’ch cais hefyd angen cynnwys geirda annibynnol (os nad ydych ynghlwm â phlaid wleidyddol) neu aelod o’ch plaid wleidyddol. Er mwyn lawr lwytho ffurflen gyfeirio templad, cliciwch yma.

Rhagor o gwestiynau? Ewch i’r adran Cwestiynau Cyffredin.

Last updated: July 5, 2012

Astudiaethau achos

Darllenwch am bobl anabl sydd yn ymhél â gwleidyddiaeth.