Croeso i’r Gronfa Ceisio am Swydd Etholiadol ar gyfer Pobl Anabl
Mae’r gronfa Ceisio am Swydd Etholiadol ar gyfer Pobl Anabl yn cynnig grantiau unigol o rhwng £250 a £40,000 i bobl anabl sy’n bwriadu sefyll etholiad.
Mae’r grantiau yn helpu diwallu’r anghenion cefnogol ychwanegol gan unigolyn anabl sy’n gysylltiedig ag anabledd. Heb y gefnogaeth hon, gallai unigolyn anabl wynebu rhwystr ychwanegol yn y prosesau dewis ac ymgyrchu o gymharu ag unigolyn heb anabledd.
Gwybodaeth Hawdd ei Darllen (pdf)
Ydw i’n gymwys?
Gallwch wneud cais am arian o’r gronfa os byddwch yn:
- gallu cadarnhau eich bod yn gymwys i sefyll yn unol â gofynion y gyfraith etholiadol, a nodir yng nghanllawiau’r Comisiwn Etholiadol
- gallu darparu tystiolaeth mewn perthynas â’ch anabledd, ac
- yn gallu rhoi tystiolaeth eich bod wedi bod yn gysylltiedig â neu â diddordeb mewn gweithgareddau dinesig, cymunedol neu berthnasol eraill.
Mae’r gronfa ar gyfer costau ychwanegol cysylltiedig ag anabledd y mae’n rhaid i chi eu talu fel rhan o’r broses o sefyll etholiad. Ni ellir ei defnyddio ar gyfer talu costau cyffredinol y mae unrhyw ymgeisydd etholiad yn eu hwynebu e.e. costau ymgyrchu (fel taflenni). Nid yw ychwaith ar gyfer costau byw cyffredinol. Nodwch fod y gronfa yn gyfyngedig, a dim ond mewn eithriadau y caiff grantiau mwy o faint (er enghraifft, £40,000) eu rhoi, lle bydd yr ymgeiswyr yn wynebu costau ychwanegol sylweddol sy’n gysylltiedig ag anabledd ac yn gallu profi hynny.
Latest News
Access to Elected Office for Disabled People Fund receives international award
The Access to Elected Office for Disabled People Fund… Visit the blog to read more on this story
Final cut-off date for grant applications
The final cut-off date for applications is fast approaching.… Visit the blog to read more on this story
Astudiaethau achos
Darllenwch am bobl anabl sydd yn ymhél â gwleidyddiaeth.